Sut mae hadau'n dechrau tyfu?
Edrychwch ar y llun o hedyn.
Beth ydych chi’n ei feddwl sydd y tu mewn i'r hedyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Tynnwch lun i ddangos eich syniadau.
- Sut allech chi helpu'r hedyn i ddechrau tyfu? Pam ydych chi'n meddwl y byddai hynny yn ei helpu?
- Beth fydd yn digwydd i’r hedyn pan fydd yn dechrau tyfu? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Tynnwch lun i ddangos beth fydd yn digwydd, yn eich barn chi.
Sut allwn ni dyfu planhigion o hadau ein hunain?
- Casglwch y pethau sydd eu hangen arnoch chi i dyfu planhigion o hadau.
- Beth ydych chi'n feddwl sydd angen i chi ei wneud gyda'r pethau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut y byddwch yn cadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd? Pam y byddwch yn cadw cofnod fel hyn?
Meddyliwch am: Sut allech chi gofnodi sut mae'n edrych? Pa ffordd sydd orau? Pam?
- Sut fyddwch yn gwybod pa rannau o'r hedyn sy’n tyfu? Sut allech chi ddarganfod hyn?
- Beth allech chi ei fesur? Sut? Beth fyddech yn ei ddefnyddio i’w fesur?
- Sut allech chi ddangos y mesuriadau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?