Sut ydym ni'n gwybod am wreiddiau?
- Mae gwyddonwyr yn credu bod gwreiddiau coeden tua 2½ gwaith yn ddyfnach nag uchder y goeden.
- Edrychwch ar bob un o’r coed hyn.
- Pa mor ddwfn yw gwreiddiau pob coeden, yn eich barn chi? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
- Sut fyddwch yn gweithio allan pa mor ddwfn yw’r gwreiddiau? Pam fyddech chi’n ei weithio allan fel hyn?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau â phartner siarad.
- Tynnwch lun y gwreiddiau i ddangos eich syniadau.
Sut allwn ni greu coed a gwreiddiau yn yr ysgol?
Crëwch goed a gofynnwch i blant eraill yn y dosbarth wneud y gwreiddiau.
- Efallai y byddwch yn...
- Tynnu llun coed neu wneud coed allan o wahanol ddefnyddiau sgrap.
- Gallech wneud hyn yn y dosbarth, yn neuadd yr ysgol, yn iard yr ysgol neu ar gae'r ysgol.
- Beth fyddwch chi'n ei wneud? Ble fyddwch chi’n gwneud hyn? Pam?
- Heriwch y plant eraill i wneud gwreiddiau sy'n 2½ maint eich coeden.
- Sut fyddech chi'n sicrhau bod y gwreiddiau yn 2½ maint eich coeden? Pam y byddech yn ei wneud fel hyn?