Sut ydym yn gwneud map cymunedol?
- Sut allech chi gadw eich hun, eich pethau, eich teulu a'ch ffrindiau yn ddiogel mewn trychineb naturiol?
- Sut fyddech chi'n gwneud yn siŵr y gallech chi weld yr arwyddion cyntaf o berygl? Pam y byddai hyn yn gweithio?
- Sut allech chi wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod pa gamau cynnar i’w cymryd? Pam mae hyn yn bwysig?
- Efallai na fyddai cymorth yn eich cyrraedd am oriau, neu hyd yn oed ddyddiau.
- Sut allech chi wneud yn siŵr eich bod chi a'r gymuned wedi paratoi ar gyfer hyn?
Ydych chi’n cofio?
Gofynnwch i'r dysgwyr siarad â pherthnasau hŷn a ffrindiau'r teulu am y trychinebau naturiol mwyaf y maent yn eu cofio. Efallai y byddant yn gofyn iddynt:
- Pa drychinebau naturiol ydych chi'n eu cofio? Beth ddigwyddodd? Sut roedd pobl yn ymateb.
- Pa drychinebau naturiol lleol ydych chi'n eu cofio? Beth ddigwyddodd? Pryd? Beth oedd pobl yn ei wneud?
- Beth allwn ni ei wneud os bydd yr un math o drychineb yn digwydd heddiw? Pwy yn y gymuned allai helpu?
Anogwch y dysgwyr i wneud nodiadau ac adrodd yn ôl i'r dosbarth. Efallai y byddant yn cynnal ymchwil pellach hefyd.
Mewn grwpiau, gallai dysgwyr gasglu pwyntiau cyffredin a chynhyrchu rhestr o beryglon a nodi beth y gellid ei wneud yn eu cylch. Defnyddiwch yr wybodaeth a gasglwyd gennych i greu Map Cymunedol.
Nid yw Map Cymunedol yr un fath â map printiedig swyddogol o’ch ardal.
Mae'n ddarlun mawr y gallwch ei greu i ddangos pa risgiau sy’n bodoli yn eich cymuned, a pha adnoddau y gallwch eu defnyddio i amddiffyn eich hunain.
Mae'n helpu pobl i adnabod perygl ac i weithredu cyn i drychineb ddigwydd:
- Sut y byddwch yn tynnu llun y map? Pam ei wneud fel hynny?
- Pa raddfa fyddwch chi'n ei defnyddio? Pam?
- Pa symbolau fyddwch chi’n eu defnyddio ar y map? Pam?