A allwn ni amddiffyn ein hunain rhag llifogydd y môr?
- Cliciwch ar y ddolen gyswllt.
- Ble mae'r glan môr sydd agosaf at ble rydych chi'n byw? Sut ydych chi'n gwybod?
- Edrychwch ar y rhestr o leoedd.
- Cliciwch ar y lle agosaf at ble rydych yn byw.
- Pa uchder yw'r llanwau uchel ac isel?
- Pryd maen nhw'n digwydd? Pa mor aml? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Edrychwch ar y graff nesaf at y tabl o ddata.
- Beth mae'n ei ddweud wrthych? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Newidiwch y dyddiad ar y graff.
- Beth sy'n digwydd? Sut mae'r graff yn newid?
- Oes yna batrwm? Sut fyddech chi'n disgrifio'r patrwm?
- Beth arall ydych chi'n ei wybod am lefelau'r llanw? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- Gwnewch waith ymchwil i ddod o hyd i ddata a gwybodaeth am y llanw a gwneud cyflwyniad 30 eiliad i’ch dosbarth am eich canfyddiadau.
- Beth ydych chi'n ei wybod am amddiffynfeydd rhag llifogydd? Sut ydych chi’n gwybod hyn?
- Dewch o hyd i fwy o wybodaeth.
- Pa ddefnyddiau a ddefnyddir ar gyfer gwahanol amddiffynfeydd rhag llifogydd? Pam y defnyddir y rhain?
- Cynhaliwch ymchwiliad i ddarganfod pa ddefnyddiau sydd orau i'w defnyddio i ddal dŵr yn ôl.
- Defnyddiwch hambwrdd neu gynhwysydd mawr. Adeiladwch amddiffyniad rhag llifogydd ac arllwys dŵr i mewn iddo. Beth sy'n digwydd?
- Beth allwch chi ei fesur? Sut?
- Beth yw eich newidynnau annibynnol a dibynnol? Sut ydych chi'n gwybod?
- Pa newidynnau allwch chi eu rheoli? Sut?
- Sut allech chi ddangos eich canfyddiadau? Pa ffordd fyddai orau? Pam?