Pa mor aml mae daeargrynfeydd yn digwydd?
- Faint o ddaeargrynfeydd sydd yna bob blwyddyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Cliciwch ar 1. Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am y wybodaeth.
- Beth mae'r wybodaeth yn y tabl yn ei dweud wrthych? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa gasgliadau allwch chi eu tynnu o'r wybodaeth hon?
- A oes digon o wybodaeth i’r rhain fod yn gasgliadau pendant? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw’r stori?
- Cliciwch ar 2 a 3. Pa wybodaeth y mae pob un o'r rhain yn ei rhoi i chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Adroddwch y stori ym mhob un.
- A yw'r wybodaeth a roddir yn 1, 2 a 3 yn gyson? Sut ydych chi'n gwybod?
- Sut maen nhw'n wahanol? Sut maen nhw'n debyg?
- A ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd? Sut? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa wybodaeth sydd ar goll o 2 a 3 a fyddai'n eich helpu i wneud cymhariaeth well? Pam y byddai cael yr wybodaeth hon yn helpu?
Beth yw’r stori yn y DU?
- Chwiliwch am gofnodion hanesyddol am ddaeargrynfeydd yn y DU.
- Pa ddata a gwybodaeth ydych chi wedi dod o hyd iddynt? Ym mhle ddaethoch chi o hyd iddynt?
- Sut fyddwch chi'n dangos yr wybodaeth hon? Pam? A yw’n ddata arwahanol neu ddata parhaus? Sut ydych chi'n gwybod?
- A allech chi ddefnyddio'r data i lunio siart cylch? Pam ydych chi'n meddwl hynny? A yw hyn yn ffordd briodol o arddangos y data hwn? Sut ydych chi'n gwybod?