Sut y gallwn ni gymharu data?
- Edrychwch ar graff 1 a 2. Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am y wybodaeth y mae pob un ohonynt yn ei dangos.
- Sut maen nhw'n wahanol?
- Sut maen nhw'n debyg?
Sut allwn ni gymharu data?
- Edrychwch ar graff 1 a 2.
- Pa gasgliadau allwch chi eu tynnu o bob graff? A yw'r casgliadau o bob graff yn debyg neu’n wahanol i’w gilydd? Pam?
- Beth mae'r llinell ddu ar bob graff yn ei dangos? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut allai pob llinell ddu edrych ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf? Beth fyddai eich rhagdybiaeth?
- Brasluniwch neu tynnwch lun eich syniadau.
- Pa dystiolaeth sydd gennych? Sut mae hyn yn cefnogi eich rhagfynegiadau?
- Sut allech chi ddefnyddio'r ddau graff i lunio graff newydd sy'n dangos daeargrynfeydd maint 5.0-5.9?
- Sut fyddai’r graff hwn yn edrych? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Brasluniwch neu tynnwch lun eich syniadau.
Sut allwn ni ddefnyddio gwybodaeth bellach?
- Edrychwch ar graff 3 a 4.
- Pa wybodaeth y mae pob un yn ei dangos?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Sut mae’r wybodaeth hon yn effeithio ar eich damcaniaethau? Pam?
- A yw'r wybodaeth yn cefnogi eich rhagfynegiadau neu ddarparu tystiolaeth sy'n gwrthdaro? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa gasgliadau y byddech yn eu tynnu ’nawr ar sail yr wybodaeth o bob un o'r pedwar? Pam?