Beth ydyn ni’n ei weld ac yn ei glywed?
- Pa wahanol oleuadau ydych chi'n eu gweld yn y fideo?
- Pam mae yna wahanol oleuadau lliw?
- Sut ydych chi'n meddwl y gallwch chi weld y goleuadau hyn?
- Sut mae goleuni’n teithio? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
- Tynnwch lun o'ch syniadau a'u hysgrifennu i lawr.
- Chwaraewch y clip fideo eto. Arsylwch ar un tân gwyllt.
- Beth sy'n digwydd yn gyntaf – y goleuni o’r tân gwyllt neu sŵn y tân gwyllt ? Pam ydych chi’n meddwl fod hyn yn digwydd?
- Sut fyddech chi’n egluro hyn yn wyddonol?
- Tynnwch lun o'ch syniadau a'u hysgrifennu ar bapur.
- Beth ydych chi’n ei glywed yn y fideo?
- Beth sy’n achosi’r seiniau hyn?
- Sut mae’r sain yn eich cyrraedd chi?
- Sut ydych chi’n gallu clywed seiniau? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
- Tynnwch lun o'ch syniadau a'u hysgrifennu i lawr.