Gwyddoniaeth Drwy Data

Amcan y prosiect hwn yw cynhyrchu adnodd digidol sy'n cynnwys cyfres o dasgau ystafell ddosbarth atyniadol ac ysgogol ar gyfer plant 3 i 11 oed, a fydd yn:

  • Helpu i wella sgiliau trin data dysgwyr ac athrawon o fewn gwyddoniaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymresymu rhifyddol
  • Dangos sut i drin ac ymholi data mewn amrywiaeth o ffurfiau
  • Dangos cynnydd wrth ddefnyddio rhestrau, siartiau, tablau a graffiau o fewn cyd-destun gwyddoniaeth