Pa mor gryf ydy sŵn tân gwyllt?
- Gwrandewch ar y clip fideo.
- Sut mae'r sain rydych chi’n ei chlywed yn newid? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Brasluniwch graff i ddangos ‘cryfder y sain mewn perthynas ag amser’ yn y clip fideo.
- Pa label fyddwch chi’n ei roi ar echelin x? Pam?
- Pa label fyddwch chi’n ei roi ar echelin y? Pam?
- Disgrifiwch wrth bartner sut mae'r llinell yn edrych.
- Pa stori mae eich graff llinell yn ei chyfleu i chi?
- Dywedwch stori’r graff wrth bâr arall.