Pa fath o wyliau yr hoffwn i fynd arno?
Pa wahanol fathau o wyliau y mae pobl yn mynd arnynt? Sut ydych chi'n gwybod am y rhain?
Pa fath o wyliau hoffech chi fynd arno? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Edrychwch ar y tabl.
Beth mae'r tabl yn ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Defnyddiwch yr wybodaeth yn y tabl i lunio pictogram.
Pa fath o wyliau fyddai pawb yn y dosbarth yn hoffi mynd arno?
Sut allech chi ddarganfod hyn? Pam ei ddarganfod fel hyn?
Pa fathau o wyliau fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw ddewis ohonynt? Pam y rhain?
Sut fyddwch chi'n casglu'r wybodaeth gan bob plentyn?
Sut byddwch chi'n cadw cofnod o'r wybodaeth hon?
Sut fyddwch chi'n gweithio allan faint o blant sy'n hoffi pob math o wyliau?
Beth fyddwch chi'n ei dddefnyddio i ddangos eich canlyniadau?