Sut allwn ni ddefnyddio robotiaid gartref?
Pa robotiaid y gellir eu defnyddio gartref? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa robotiaid sydd gennych gartref? Sut ydych chi'n gwybod eu bod yn robotiaid?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
Gallwch fynd i ‘gosodiadau’ a dewis ‘isdeitlau Cymraeg'.
Sut mae'r llyncwr llwch robot yn gweithio?
Pa nodweddion sydd iddo?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
A yw llyncwyr llwch robotig yn cymryd drosodd?
Edrychwch ar y data uchod am lyncwyr llwch robotig.
Sut mae'r data yn cael ei ddangos ym mhob un? Sut ydych chi'n gwybod?
Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth nad yw’r data yn ei ddwued wrthym? Beth sydd ar goll? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
Beth mae'r niferoedd yn ei awgrymu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Sut ydych chi'n gwybod?
A yw'r wybodaeth ym mhob un o'r rhain yn cefnogi'r ddau arall? Sut ydych chi'n gwybod?
Pa un o'r tri sy'n fwyaf tebygol o fod yn rhagfarnllyd? Pam?
Pa un o'r tri sy'n lleiaf dibynadwy? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa fath o lyncwr llwch robotig fyddech chi'n ei ddyfeisio i'ch helpu gartref neu yn yr ysgol?
Cynlluniwch a dyluniwch lyncwr llwch robotig newydd.
Defnyddiwch frasluniau anodedig i ddangos eich dyluniad.
Sut allech chi ddangos y robot gan ddefnyddio lluniadau wrth raddfa?
Sut fydd yn edrych? Pam fydd yn edrych fel hyn?
Sut y bydd yn defnyddio synwyryddion? Pam eu defnyddio fel hynny?
Pa wybodaeth fyddai angen i’w raglennu? Pam yr wybodaeth hon?
Sut fyddai yn darganfod ei ffordd o gwmpas y tŷ? Sut fyddai'n gwybod pryd i stopio neu droi corneli?
Pa nodweddion arbennig fyddai ganddo? Pam?
Sut fyddwch chi'n cynhyrchu dalen ddata ar ei gyfer?
Pa mor drwm fydd eich sugnwr llwch? Beth fydd ei hyd a’i led? Pam?
Sut fydd yn cael ei bweru? Pam?