Pobl neu beiriannau - pwy fydd yn ennill?
Beth ydych chi'n meddwl yw'r prif swyddi y mae robotiaid yn eu gwneud? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Cliciwch ar y botwm ac edrychwch ar y tabl.
Pa mor dda oedd eich dyfalu? Beth wnaeth eich synnu? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Pa swyddi fydd robotiaid yn eu cymryd yn y dyfodol?
Pa swyddi y gellid defnyddio robotiaid i’w gwneud yn y dyfodol? Athrawon? Meddygon? Heddlu?
Beth am robot wedi ei raglennu i beidio methu cic cosb mewn rygbi? Beth ydych chi'n ei feddwl? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo. Gallwch fynd i ‘gosodiadau’ a dewis 'isdeitlau Cymraeg'.
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am y fideo.
Gwnewch ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth ynghylch pam y bydd robotiaid yn cael eu defnyddio mewn rhai swyddi yn y dyfodol.
Pam mae robotiaid yn disodli pobl? Pwy sy'n penderfynu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio robotiaid i wneud swyddi y mae pobl yn eu gwneud?
Beth yw’r rhagfynegiad?
Edrychwch ar y graff.
Pa wybodaeth mae’n ei dangos? Beth mae’n ei ddweud wrthym ni? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
Os yw 1 = Sicr, beth yw ystyr 0 a 0.5? Sut ydych chi’n gwybod?
Pa swyddi ydych chi'n meddwl na fydd robot byth yn gallu eu gwneud? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Pa dystiolaeth sydd gennych chi?