A fydd robotiaid yn helpu i ofalu amdanom ni un diwrnod?
Mae gofal cymdeithasol yr henoed yn fater pwysig.
Sut ydych chi'n meddwl y gallai robotiaid helpu? A fyddech chi'n hapus o gael robot yn gofalu amdanoch pan fyddwch chi'n hŷn? Pam?
Beth ydych chi'n meddwl yw manteision ac anfanteision robotiaid sy'n helpu i ofalu am yr henoed?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Edrychwch ar y siart cylch.
Beth mae'n ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Gwnewch ymchwil yn yr ysgol ac yn y cartref gyda ffrindiau a theulu.
Darganfyddwch a fyddai pobl eisiau i robot ofalu amdanyn nhw.
Defnyddiwch eich canfyddiadau i dynnu llun siart cylch.
Sut mae eich siart cylch yn wahanol i'r un a ddangosir? Sut mae'n debyg?
Pa gasgliadau y gallwch chi eu tynnu o'ch ymchwil? Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r casgliadau hyn?
Sut allwn ni ystyried safbwyntiau gwahanol?
Edrychwch ar y siart cylch.
Beth mae'n ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa gwestiwn y gofynnwyd i bobl ymateb iddo? Sut ydych chi'n gwybod?
Ydych chi'n cytuno â'r canfyddiadau? Pam? Beth yw eich barn chi?
Beth yw barn eraill yn y dosbarth? Ydych chi i gyd yn cytuno neu'n anghytuno? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
Am beth mae’r clipiau fideo’n son?
Beth wnaethoch chi ei ddysgu? Beth sy'n eich synnu?
Pa effaith mae’r clipiau fideo hyn wedi ei gael ar eich barn chi?
Sut maen nhw wedi newid eich barn?
A ydy’r clipiau fideo wedi newid barn pawb? Pam?
Beth ydych chi wedi'i ddysgu am edrych ar bethau o wahanol safbwyntiau? Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.