A allwn ni amddiffyn ein hunain rhag llifogydd y môr?
Cliciwch ar y ddolen gyswllt.
Defnyddiwch y map rhyngweithiol i archwilio sut y rhagwelir lefelau môr yn newid yn effeithio ar wahanol ardaloedd yng Nghymru yn y dyfodol.
- Darllenwch bob un o'r datganiadau. Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am yr hyn y maent yn ei ddweud.
- Pa un o'r rhain sy’n rhagfynegiad? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa dystiolaeth y byddai ei hangen arnoch chi er mwyn gwneud y rhagfynegiad hwn? Sut ydych chi'n gwybod hyn?
- Pa rai o'r rhain sy’n 'ffeithiau'? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa rai sy’n ’gred' neu ’farn'? Sut ydych chi'n gwybod?
- Pwy sy'n debygol o fod wedi dweud y pethau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa rai o'r rhain allai fod yn rhagfarn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Cymerwch olwg manylach ar Gaerdydd ar y map rhyngweithiol.
- Beth ellid ei wneud i amddiffyn y ddinas rhag lefelau môr yn codi?
- Datblygwch gynnig i nodi eich syniadau ar gyfer amddiffyn y ddinas rhag lefelau'r môr yn codi.
Ystyriwch:
- Sut y byddwch yn cyflwyno eich cynnig? Pam ei gyflwyno fel yna?
- A fyddwch yn cynnwys map? Pam?
- Pa ddata allech chi ei gynnwys? Sut bydd hyn yn helpu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?