Daeargrynfeydd yng Nghymru?
- Beth yw daeargryn? Sut ydych chi'n gwybod?
- Pryd oedd y ddaeargryn ddiwethaf yng Nghymru? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Gwyliwch y fideos cysylltiedig.
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Sut mae daeargrynfeydd yn cael eu mesur? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Beth yw graddfa logarithmig? Sut allech chi ddarganfod beth ydyw?
- Gwnewch ymchwil pellach i ddod o hyd i fwy o wybodaeth.
- Crëwch inffograffeg i ddangos yr hyn yr ydych wedi ei ganfod.
- Dylech gynnwys gwybodaeth am sut y mesurir maint daeargryn a sut y mae Cymru wedi cael ei heffeithio gan ddaeargrynfeydd.
Ystyriwch:
- Beth sy'n gwneud inffograffeg da? Pam ydych chi'n meddwl hyn?
- Pa wybodaeth y byddwch yn ei chynnwys? Pam?