Sut allwn ni ymholi data daeargrynfeydd?
- Gan weithio fel rhan o grŵp bach, dewiswch graff 1, 2, 3 neu 4.
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am yr wybodaeth a welwch.
- Pa 'stori' y mae’r wybodaeth yn ei dweud? Rhannwch y 'stori' hon gyda'r dosbarth.
Sut allwn ni ymholi’r data?
Ar gyfer pob un, ystyriwch:
- Pa wybodaeth y mae’r data yn ei darparu? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- A oes unrhyw batrymau neu dueddiadau? Pa dystiolaeth sydd gennych am hynny?
- Pa gasgliadau allwch chi eu tynnu o'r wybodaeth hon?
- A oes digon o dystiolaeth i’r rhain fod yn gasgliadau pendant? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Beth yw'r dystiolaeth hon?
- Pa dystiolaeth arall fyddech chi ei hangen i ddod i gasgliadau mwy pendant? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Ar gyfer pob un o’r pedwar, ystyriwch:
- Sut maen nhw'n wahanol?
- Sut maen nhw'n debyg?
- Gan ddefnyddio gwybodaeth o bob un o’r pedwar, pa gasgliadau y gallech eu tynnu ‘nawr?
- A yw'r casgliadau hyn yn fwy pendant na’ch casgliadau blaenorol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich casgliadau?
Allwn ni ragfynegi’r dyfodol?
- Dewiswch graff 1, 2, 3 neu 4.
- Brasluniwch neu tynnwch lun o sut allai edrych yn y dyfodol, yn eich barn chi.
- Ar raddfa o 1-100, pa mor hyderus ydych chi o’ch rhagfynegiad? Pam? Pa dystiolaeth sydd gennych?