Beth allwn ni ei ddysgu o ddata?
- Edrychwch ar y dudalen we 'Ffeithiau gwastraff tirlenwi'.
- Beth yw 'ffaith'?
- Pam ydych chi'n meddwl eu bod yn cael eu galw’n 'ffeithiau'?
- Pa mor hyderus ydych chi eu bod nhw’n 'ffeithiau'?
- Pa wybodaeth fyddai ei hangen cyn galw’r rhain yn ffeithiau neu wneud yr honiadau hyn?
- Sut y gellid cael tystiolaeth i gefnogi’r ffeithiau neu’r honiadau hyn?
- Pa mor ddibynadwy yw’r ffeithiau neu’r honiadau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Archwiliwch y tudalennau 'ffeithiau' neu 'barthau' eraill.
- Gwnewch nodiadau am y ffeithiau neu honiadau y dewch chi o hyd iddyn nhw.
Cynhaliwch fwy o waith ymchwil
- Archwiliwch y tudalennau 'ffeithiau' neu 'barthau' eraill a gwnewch nodiadau am y ffeithiau neu honiadau y dewch o hyd iddyn nhw.
- Adroddwch i’r dosbarth am eich canfyddiadau.
Dyluniwch a chrëwch dudalen we ar gyfer eich ysgol.
- Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn gwneud honiadau am wastraff o'r ysgol?
- Sut fyddwch chi'n casglu'r wybodaeth hon? Pam?
- Pa gyfrifiadau fydd angen i chi eu gwneud? Pam?