Beth sydd i ginio heddiw?
- Beth fydd yn cael ei wastraffu yn y bocsys bwyd hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Ym mha focs bwyd fydd y mwyaf o wastraff? Sut ydych chi'n gwybod?
Cyn cinio:
- Edrychwch y tu mewn i holl focsys cinio pecyn y dosbarth.
- Pa eitemau ydych chi'n meddwl fydd yn cael eu gadael y tu mewn i bob bocs ar ôl cinio? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Ar ôl cinio:
- Beth sydd wedi cael ei wastraffu? Oeddech chi'n gywir?
- Defnyddiwch ffotograffau, lluniau neu wrthrychau i ddangos yr hyn sydd wedi'i wastraffu.
- Faint o bob peth sydd wedi cael ei wastraffu?
- Sut allech chi ddangos y wybodaeth hon mewn rhestr neu ar dabl? Pam ei dangos fel yna?