Sut y defnyddir defnyddiau clyfar i fesur cyfradd curiad y galon?
- Beth ydym yn ei olygu wrth 'cyfradd curiad y galon'? Sut ydych chi'n gwybod? Beth yw’r 'curiad (pwls)’? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut mae’r ‘curiad (pwls)’ yn wahanol i ‘gyfradd curiad y galon’?
- Sut y gallwn fesur ein curiad (pwls) a chyfradd curiad ein calon? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Sut y defnyddir technoleg glyfar i wneud hyn? Sut ydych chi'n gwybod hyn?
- Pam ydych chi'n meddwl bod pobl yn mesur eu curiad (pwls) a chyfradd curiad y galon?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
- Mae'n dangos i ni sut i fesur cyfradd curiad y galon. Beth mae'n ei fesur mewn gwirionedd? Beth mae’r offer monitro ar arddwrn yn ei fesur?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut y gallwn ni fesur cyfradd curiad ein calon?
- Beth sy'n digwydd i gyfradd curiad eich calon pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff? Sut ydych chi'n gwybod?
- Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
Tasg: Mesurwch gyfradd curiad eich calon tra’n gorffwys ac yna ei fesur bob munud wrth i chi wneud ymarfer corff am 10 munud.
- Crëwch gynllun i ddangos sut y gallech chi wneud hyn.
- Pa broblemau allech chi eu hwynebu wrth wneud hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut allech chi oresgyn y problemau hyn?
- Pam y byddai eich awgrymiadau i oresgyn eich problemau yn gallu gweithio?
- Defnyddiwch eich cynllun a chofnodwch eich canlyniadau.
- Defnyddiwch y llyfr gwaith Excel i arddangos eich canlyniadau. Sut fyddwch chi'n gwneud hyn? Pam ei wneud fel yna?
- Beth fyddwch chi'n ei lunio? Pam?
Sut allwn ni fesur cyfradd curiad ein calon?
- Mae electrolycra yn ddefnydd clyfar y gellir ei ddefnyddio i wneud dillad chwaraeon sy'n monitro cyfradd curiad y galon yn fanwl gywir iawn.
- Sut fyddai defnyddio hwn wedi eich helpu chi efallai? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Chwiliwch am fwy o wybodaeth am electrolycra.
- Dyluniwch grys chwaraeon sy'n defnyddio’r dechnoleg hon.
- Dangoswch eich dyluniad i blant eraill yn eich dosbarth a gofyn iddyn nhw roi sylwadau arno.