Pam gall fod yn amser gwahanol o’r dydd pan fyddwn ni dramor?
Ewch ar y wefan: https://www.timeanddate.com/
Ewch i ‘Map Cylchfa Amser’ (‘Time Zone Map’) a chanfod gwahanol ddinasoedd ar y map. Cliciwch ar ‘Cloc y Byd’ (‘The World clock’) a chanfod beth yw’r amser mewn gwahanol leoliadau yn fyd-eang.
Yna, archwiliwch weddill y wefan. Adroddwch eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.
A allwch ni gwblhau'r ymchwil?
Mae dosbarth wedi bod yn ymchwilio i amseroedd hedfan a hyd teithiau rhwng gwahanol gylchfaoedd (neu ranbarthau) amser.
Cwblhewch eu hymchwil trwy ddarganfod beth yw'r wybodaeth sydd ar goll (?) ar gyfer pob taith awyren.
Sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon? Pam gwneud hynny?
Beth fyddwch chi'n ei wneud gyntaf? Pam?
Sut fyddwch chi'n gwybod a yw'ch atebion yn gywir? Sut allech chi wirio? Pam fyddai hyn yn gweithio?
Pa wybodaeth goll (?) oedd yr hawsaf i’w gweithio allan? Pam mai’r wybodaeth goll hon oedd yr hawsaf? Pa wybodaeth goll oedd anoddaf i’w gweithio allan? Pam?