Pam na wnewch chi ymweld â lle rwy'n byw?
O ble rydych chi’n dod?
Ble yng Nghymru mae'r lle hwn? Sut ydych chi'n gwybod?
Ble mae eich cartref ar fap o Gymru? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw enwau’r lleoedd cyfagos i’ch cartref?
Ble yng Nghymru sydd ymhell i ffwrdd o’ch cartref? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Rhannwch eich syniadau gyda phartner siarad.
Sut y gallen ni hysbysebu lle rydym ni'n byw?
Beth yw'r pethau da am ble rydych chi'n byw? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth sy'n ddiddorol am ble rydych chi'n byw?
Pam mae pobl yn ymweld â’r lle rydych chi'n byw ynddo? Sut ydych chi'n gwybod?
Ble mae'r gwesty agosaf i’r lle rydych chi'n byw ynddo?
Oes yna unrhyw wersylloedd neu barciau carafanau yn ymyl? Ble maen nhw? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Rhannwch eich syniadau gyda'ch grŵp.
Gwnewch restr o'r holl resymau i bobl ymweld â'r ardal lle rydych chi'n byw.
Sut bydden nhw'n cyrraedd yno?
Ble fydden nhw'n aros? Pam?
Beth fydden nhw'n ei wneud?
Pa leoedd fydden nhw'n ymweld â nhw?
Ble bydden nhw'n bwyta?
Gwnewch arweiniad i dwristiaid ar gyfer yr ardal rydych chi'n byw ynddi.
Dywedwch wrth bobl pa leoedd y gallant ymweld â nhw a beth y gallant ei wneud yn eich ardal chi.
Gwnewch i’r ardal swnio'n ddiddorol a chyffrous