Beth allwn ni ei ddysgu o olion traed deinosoriaid?
-
Beth yw ystyr 'cerddediad' ? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
-
Rhannwch eich syniadau ac yna ceisiwch ddarganfod beth ydy ei ystyr.
-
Ble fyddwch chi’n edrych? Pam?
- Ni all dulliau modern o astudio 'cerddediad', fel ffotograffiaeth cyflym iawn, gael eu defnyddio gyda deinosoriaid.
- Mae gwyddonwyr wedi amcangyfrif pa mor dal oedd dinosor drwy ddefnyddio 'uchder clun', sydd wedi cael ei gyfrifo mewn ffyrdd gwahanol.
- Mae'r dull 'morphometrig' yn amcangyfrif fod uchder clun o’r ddaear yn bedair gwaith hyd troed deinosor – cymhareb amrwd, ond defnyddiol.
Mae’r diagram hwn yn dangos y dull ‘geometrig’. Cymerir yn ganiataol fod olion traed olynol ('A' a 'B') yn sylfaen triongl isosgeles. Mae 'U' yn cynrychioli uchder y glun.
A yw'r ddau ddull hyn yn wir am fodau dynol?
Cynlluniwch ac yna gwnewch ymchwiliad i ateb y cwestiwn hwn. Defnyddiwch eich canlyniadau i ddod i gasgliadau.
-
Sut fyddwch yn cyflawni'r dasg hon? Pam byddwch yn ei gwneud fel hynny?
-
Beth fyddwch chi'n ei fesur? Pam?
-
Sut fyddwch yn cofnodi eich mesuriadau? Pam byddwch yn eu cofnodi fel hyn?
-
Sut allech chi gyflwyno eich canfyddiadau? Sut fyddwch yn penderfynu ar y ffordd orau i'w cyflwyno?
-
Pa wybodaeth a dealltwriaeth wyddonol fyddwch chi’n eu defnyddio wrth egluro eich canfyddiadau?
-
Pa gasgliadau ddewch chi iddyn nhw o’ch canfyddiadau?
-
Sut fyddwch yn sicrhau bod eich casgliadau yn gyson â’ch canfyddiadau?