Beth rydym yn ei wybod am ein hafonydd lleol?
- Cliciwch ar y ddolen gyswllt.
- Rhowch enw'r lle rydych yn byw ynddo.
- Defnyddiwch y map i ddod o hyd i'ch gorsaf fonitro agosaf.
- Cliciwch ar ‘Manylion yr orsaf fonitro'.
- Pa wybodaeth allwch chi ei gweld?
- Ym mha ffordd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno? Sut ydych chi'n gwybod hyn?
- Sut arall allai'r wybodaeth hon gael ei chyflwyno? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa fesuriadau sy’n cael eu dangos ar echelin-X ac echelin-Y?
- A allai’r rhain gael eu dangos fel siart bar? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Newidiwch o ‘golwg 4 diwrnod' i '24 awr’ a diweddaru.
- Beth ydych chi'n ei weld yn awr? Sut mae pethau wedi newid? Pam?
- Beth ydych chi'n feddwl y byddwch yn ei weld pan fyddwch yn newid i ‘golwg misol'? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Gwnewch hyn i ganfod beth fydd yn digwydd.
- Beth ydych chi'n ei weld? Pa mor dda oedd eich rhagfynegiad?
Beth mae’r brig yn ei ddangos? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth ydych chi'n ei wybod am lefelau dŵr yn yr afon leol?
- Gwnewch waith ymchwil a dod o hyd i wybodaeth am hyn. Defnyddiwch y wefan yr ydych wedi bod yn edrych arni fel man cychwyn.
- Crëwch gyflwyniad ‘Lefel dŵr' sy’n para 1 munud i roi gwybod i bobl eraill am eich canfyddiadau.
- Beth sy'n gwneud cyflwyniad da? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa wybodaeth y byddech chi’n ei chynnwys? Pam?
- Sut allech chi ddefnyddio fideo yn y cyflwyniad hwn?
- Pa ddata allech chi ei gynnwys? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth yw'r lefelau dŵr uchaf ac isaf a gofnodwyd? A yw'r rhain yn gofnodion diweddar? Pryd y digwyddodd y rhain?
- Beth yw ystod y lefelau dŵr yn lleol? Sut ydych chi'n gwybod hyn?
- Pa batrymau allwch chi ddod o hyd iddynt yn y data? Pa wybodaeth mae’r rhain yn ei rhoi i chi?
- Sut allwch chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud rhagfynegiadau ynghylch lefelau dŵr yn y dyfodol?
- Pa gasgliadau allwch chi eu tynnu o’ch canfyddiadau?
Sut y byddwch yn sicrhau bod eich casgliadau yn gyson â’ch canfyddiadau?